Ymunwch â Ni i Dyfu Cymuned Gryfach

Rôl Cyfarwyddwr Gwirfoddol –
CIC Yr Ardd (Gardd Gymunedol ym Mhont-Tyweli, Llandysul)

Yr Ardd yw eich gardd gymunedol leol—lle i dyfu bwyd, cyfeillgarwch, a dyfodol wedi'i wreiddio mewn gofal, cynaliadwyedd, a chymuned. Ers 2021, mae'r Ardd wedi ffynnu gyda chefnogaeth pobl leol sy'n credu mewn mynediad at gynnyrch ffres, cyfleoedd gwirfoddoli, a defnyddio'r Gymraeg ym mywyd beunyddiol.
Rydym nawr yn chwilio am Gyfarwyddwyr Gwirfoddol newydd i helpu i arwain a chefnogi ein dyfodol cyffrous.

Ai chi yw hwn?

  • Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn eich cymuned?
  • Oes gennych chi brofiad o redeg busnes neu sefydliad, rheoli pobl, neu weithio mewn rôl arweinyddiaeth?
  • Ydych chi'n poeni am gyfiawnder bwyd, yr amgylchedd, a lles cymunedol?
  • Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sy'n byw'n lleol ac sydd eisiau dod â'u sgiliau a'u hamser i helpu'r Ardd i dyfu.

Mae rôl y Cyfarwyddwr yn cynnwys:

  • Gwneud penderfyniadau ar y cyd â chyd-gyfarwyddwyr
  • Helpu i reoli cyllid, pobl, a chyfrifoldebau cydymffurfio
  • Cefnogi gwirfoddolwyr a datblygu gerddi Mynychu cyfarfodydd agored misol ac ymweld â'r ardd
  • Gweithio i gynnal arferion cynhwysol, diogel a chynaliadwy

Cefnogaeth lawn, arweiniad, a hyblygrwydd rôl ar gael—nid oes disgwyl i neb wybod popeth. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich ymrwymiad i'r gwerthoedd a'r gymuned.

Eisiau cymryd rhan neu ddysgu mwy?

Cysylltwch heddiw – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych: yrardd@gmail.com

Gyda'n gilydd, gadewch i ni gadw'r Ardd n ffynnu.

Tansgrifiwch i'n cylchlythyr

Tansgrifiwch yma

Rydym yn ddiolchgar i'n holl
Ariannwyr a Chefnogwyr

Funded by CAVO, UK Government, Ceredigion County Council